google0adbac332fb41b45.html

Croeso y The Old Vicarage

Mae The Old Vicarage yn adeilad Fictoraidd nodweddiadol, sydd wedi'i leoli yng nghanol mynyddoedd Cambria ac wedi'i drawsnewid yn chwaethus i lety gwely a brecwast 4 seren glyd. Ychydig iawn sydd wedi newid y tu mewn neu'r tu allan, ac mae'r tŷ yn cynnwys caeadau pren gwreiddiol, grisiau derw a lleoedd tân gwreiddiol, yn ogystal â hynafolion a gwaith celf. Sicrheir eich cysur gydag amrywiaeth o ystafelloedd gwely sydd wedi eu dodrefnu'n dda, pob un â'i gyfleusterau en-suite ei hun, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i fanylder ac ansawdd. Mae'r tŷ wedi'i leoli mewn ychydig llai na hanner erw o erddi llethrog anffurfiol, gyda phatio, teras haul, lolfa westai a bar gonestrwydd.

I'r gwestai deallus, mae’r Old Vicarage yn cynnig arddull i adlewyrchu'r cyfnod darfodedig o gartref o droad y ganrif, ynghyd â chyfleusterau ac amwynderau cyfoes ar gyfer eich cysuro’n llwyr.

Rydym yn dal i ddysgu Cymraeg felly mae rhai o'n tudalennau gwybodaeth dal yn Saesneg ar hyn o bryd
ARCHEBU RWAN

Parcio

Mae yna le i barcio ar y safle a mannau storio diogel ar gyfer beiciau

Taliad hawdd

Visa, MasterCard, American Express, Apple Pay, Google Pay, Arian parod

Cyrraedd eich ystafell

Gallwch gyrraedd eich ystafell yn gynnar ar gais rhwng 2.00pm a 9.00pm

Talu ac ymadael

Gallwch dalu ac ymadael yn hwyr ar gais hyd at 10.00am

Rhywbeth bach ychwanegol

Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu'r cynnyrch gorau gan gyflenwyr o Gymru, yn enwedig gyda'n brecwastau, gan eu bod nhw’n tynnu sylw at gynnyrch lleol.  Rydym hefyd yn cynnig dewisiadau llysieuol, fegan a heb glwten, a gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion dietegol.  Mae pecynnau cinio ar gael i'w archebu.  Rydym hefyd yn darparu ambell beth ychwanegol, yn cynnwys deunyddiau ymolchi ecogyfeillgar a sebon wedi'u gwneud â llaw.  Ymfalchïwn ein bod yn gyfeillgar i LGBT. Mae The Old Vicarage yn lleoliad di-ysmygu ac rydym yn croesawu anifeiliaid anwes os byddwn yn cael gwybod ymlaen llaw.  Mae llawer o'n gwesteion yn dychwelyd yn rheolaidd – beth am ddod i ymweld â ni? Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Pa bynnag weithgaredd gwyliau yw eich angerdd – boed yn egnïol neu'n orffwysol – fe welwch mai’r Old Vicarage yw'r man lle gallwch chi ymlacio go iawn.

ARCHEBU RWAN

Eich Canolfan Ddelfrydol

Mae'r Old Vicarage yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau awyr agored yn ogystal â chanolfan ar gyfer teithio.  Wedi'i leoli yn Nyffryn Gwy yng nghanol Powys, Canolbarth Cymru, mae Llangurig, sy'n 300 metr uwchlaw lefel y môr, yn un o'r pentrefi uchaf yng Nghymru. Mae’r pentref ar gyffordd yr A470 ac mae'r A44 yn agos i drefi marchnad Llanidloes a Rhaeadr Gwy.  Llangurig yw'r pentref cyntaf ar yr Afon Gwy sy'n codi, gyda'r Afon Hafren, ar fryniau Pumlumon tua chwe milltir i ffwrdd, ac mae'r olygfa o ben Pumlumon (2465tr) yn rhagorol.
ARCHEBU RWAN

Eich Canolfan Weithredol

Mae'r Old Vicarage o fewn cyrraedd hawdd i Gwm Elan, yr arfordir yn Aberystwyth a llawer o atyniadau lleol, yn ogystal â bod mewn lleoliad perffaith ar gyfer archwilio'r Canolbarth i gyd, y Gororau, yr Amwythig a chyrchfannau eraill.  Mae llwybrau cerdded a beicio ar garreg ein drws – gan gynnwys ffordd Dyffryn Gwy a’r ffordd Traws-Cambrian, ac mae llawer o weithgareddau awyr agored o fewn cyrraedd. Maent yn cynnwys beicio mynydd a beicio modur, marchogaeth, canŵio, saethu a llawer mwy.  Dim ond taith fer mewn car sydd rhyngom ni a Maes y Sioe Frenhinol a'r Brifysgol yn Aberystwyth.  Mae gan ein lolfa gyfforddus lawer o lyfrau a mapiau diddorol i westeion eu benthyg, gyda llawer ohonynt ar gefn gwlad ac ardal Canolbarth Cymru.
ARCHEBU RWAN
Share by: